Pwyllgor Menter a Busnes
Mae’r
Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal ymchwiliad i brentisiaethau yng
Nghymru. Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
-
a
yw’r
system brentisiaethau gyfredol yn rhoi cymorth effeithiol i economi
Cymru?
-
a
yw’r
system brentisiaethau gyfredol yn diwallu anghenion sgiliau
cyflogwyr yng Nghymru ar hyn o bryd, ac a fydd y system yn eu
diwallu yn y dyfodol? Os na, pa elfennau o’r system sydd
angen eu gwella?
-
gofio’r
flaenoriaeth
gynyddol a roddir i brentisiaethau ar gyfer pobl sydd rhwng 16 a 24
oed, a yw prentisiaethau’n ddewis atyniadol i bobl
ifanc?
-
a
yw’r
systemau ar gyfer sefydlu Safonau a Fframweithiau Prentisiaeth ac
ar gyfer recriwtio prentisiaid yn gweithio’n
effeithiol?
Materion
allweddol
Mae’n
bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried y materion a ganlyn fel rhan
o’r cylch gorchwyl:
-
pa
mor
effeithiol yw ymgysylltiad cyflogwyr â’r system
brentisiaethau yng Nghymru? A yw hyn wedi newid o ganlyniad
i’r amgylchiadau economaidd presennol? A yw cyflogwyr yn
gallu dod o hyd i ddigon o bobl ifanc sydd â’r sgiliau
a’r doniau sydd eu hangen arnynt? A yw’r berthynas
rhwng cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn un effeithiol? A yw
prentisiaethau’n parhau i gael eu cyfyngu i sectorau
penodol?
-
a
yw
mentrau cymdeithasol yn gwneud defnydd effeithiol o
brentisiaethau?
-
a
yw nifer
y prentisiaid sy’n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol,
a’r sector cyhoeddus yn gyffredinol, wedi cynyddu neu wedi
gostwng? A ddylai’r sector cyhoeddus recriwtio mwy o
brentisiaid?
-
mae
Llywodraeth
Cymru yn hyrwyddo’r defnydd o gymalau Budd i’r Gymuned
mewn contractau sector cyhoeddus, sef cymalau y gellir eu defnyddio
i hyrwyddo’r arfer o gyflogi hyfforddeion a phrentisiaid. A
yw hwn yn ddull effeithiol o gynyddu nifer y
prentisiaid?
-
beth
yw
proffil cyffredinol prentis o ran oedran, rhyw a sector cyflogaeth,
er enghraifft? A yw’r proffil hwn yn newid ac, os ydyw, beth
yw’r rhesymau dros hyn? Yn ôl adroddiad gan Ffederasiwn
Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, oed prentis ar gyfartaledd yw 26.
Beth yw'r rhesymau dros hyn? A yw prentisiaethau’n
llwyddiannus, yn gyffredinol, o safbwynt prentisiaid? A yw’r
gyfradd o brentisiaethau sy’n cael eu cwblhau wedi newid yn
ystod y blynyddoedd diwethaf? Yn ymarferol, a roddir sicrwydd i
brentisiaid y byddant yn cael swydd ar ddiwedd eu
prentisiaeth?
-
a
yw Gyrfa
Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi cymorth effeithiol i
bobl sydd am ddod o hyd i brentisiaethau? A yw’r Gwasanaeth
Paru Prentisiaethau, sef gwasanaeth newydd sy’n cael ei
gynnig gan Gyrfa Cymru, yn effeithiol?
-
pam
mae pobl
ifanc yn dewis bod yn brentisiaid? Pa ffactorau sy’n
dylanwadu ar eu penderfyniad?
-
a
yw
prentisiaethau yn ddewis atyniadol i bobl o bob gallu, neu a ydynt
yn cael eu hystyried yn ddewis eilradd o gymharu â dilyn cwrs
addysg uwch? A yw agweddau’n newid, ac os felly, beth
yw’r rhesymau dros hyn?
-
a
yw’r
bobl sydd â’r dylanwad mwyaf ar ddewisiadau pobl ifanc,
fel rhieni/gofalwyr, athrawon gyrfaoedd mewn ysgolion, ac athrawon
yn gyffredinol, yn deall y system brentisiaethau yn llawn? A
yw’r system yn rhy gymhleth, ac a oes gormod o ddewis o ran
rhaglenni?
-
pa
mor
effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru ar brentisiaethau?
Sut y mae’r polisïau hyn yn cydblethu a’i
strategaethau ehangach ar yr economi a sgiliau?
-
mae
addysg a
hyfforddiant, gan gynnwys prentisiaethau, yn faterion datganoledig,
ond nid yw cyfreithiau sy’n ymwneud â chyflogaeth
wedi’u datganoli. A oes gan bobl ifanc hawliau a mynediad
digonol o ran cael hyfforddiant fel prentisiaid? Os na, sut y
gellir gwella’r sefyllfa hon?
-
a
yw’r
Cynghorau Sgiliau Sector yn hyrwyddo a chefnogi prentisiaethau mewn
modd effeithiol? Sut y mae capasiti’r cynghorau yn effeithio
ar eu perfformiad yn y maes hwn?
-
a
yw cyllid
Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol er mwyn cefnogi
prentisiaethau?
-
a
oes
enghreifftiau o arfer da o ran gweithredu systemau prentisiaeth
mewn gwledydd eraill y gallai Cymru ddysgu ohonynt?
Y
Broses Ymgynghori
Os
ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig
at
pwyllgor.menter@cymru.gov.uk
Neu gallwch
ysgrifennu at:
Siân
Phipps
Clerc y
Pwyllgor
Y
Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd,
CF99 1NA.
Mae’r
Pwyllgor yn croesawu ymateb gan unigolion a sefydliadau. Os
ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o
rôl y sefydliad hwnnw.
Croesewir
cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg gan y Pwyllgor, a bydd yn
ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau
cyflwyno tystiolaeth lafar maes o law.
Dylid cyflwyno
ymatebion erbyn 6 Ebrill 2012. Mae’n bosibl na fydd
modd ystyried ymatebion a fydd yn dod i law ar ôl y dyddiad
hwn. Sylwer bod y dyddiad cau wedi’i ymestyn tan 17
Ebrill 2012.
Datgelu
gwybodaeth
Mae’n
arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a
ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb
yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n
rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn
cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os
ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU,
efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir
gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn
hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion
cyhoeddi.
Os
byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad
yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn
chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi
a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn
ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau
am wybodaeth.